Mater gronynnol

Gellir rhannu mater gronynnol yn bedwar math: Difwynwyr nwyol, difwynwyr gronynnol, llwch a biolegol.

Mae mater gronynnol yn gymysgedd cymhleth o solidau a hylifau, gan gynnwys carbon, cemegau organig cymhleth, sylffadau, nitradau, llwch mwynol, a dŵr yn yr aer. Mae’n amrywio mewn maint. Mae rhai gronynnau, fel llwch, huddygl, baw neu fwg yn ddigon mawr neu’n ddigon tywyll i ni eu gweld gyda’n llygaid ein hunain. Ond y gronynnau mwyaf niweidiol yw’r gronynnau llai, sef PM10 a PM2.5. Mae PM10 yn cyfeirio at ronynnau sydd â diamedr sy’n llai na 10 micron (10μm) – sef 10 miliynfed o fetr. Mae PM2.5 yn cyfeirio at ronynnau sydd â diamedr sy’n llai na 2.5 micron, ac enw’r rhain yw gronynnau mân. Mae’r gronynnau mân lleiaf, llai na 0.1 micron mewn diamedr, yn cael eu galw’n gronynnau tra mân.

Daw mater gronynnol ‘gwneud’ yn bennaf o brosesau diwydiannol, gwaith adeiladu, mwg o beiriannau disel a phetrol, ffrithiant o frecio a theiars, a llwch o arwynebau ffordd. Mae injan ddisel yn tueddu i gynhyrchu llawer mwy nag injan betrol. Mae llosgfynyddoedd, diferion o’r môr, paill a phridd yn ffynonellau mater gronynnol. Caiff hefyd ei ffurfio yn yr atmosffer pan fydd nwyon fel nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid yn cael eu newid yn yr aer gan adweithiau cemegol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search